Epona, Eisteddfod Genedlaethol Gymru, 2020
Mae Epona yn cynnwys gwaith gan 31 artist sydd i gyd wedi arddangos yn Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen.
Ym Mehefin 1940 cafodd Mynydd Epynt (cyfeiriad grid SN961464) ei feddiannu gan y Swyddfa Ryfel. Gwasgarwyd y 400 o Gymry a fu'n ffermio ar y mynydd a'r saith cwm o'i amgylch a throi’r ardal yn faes tanio i'r fyddin. Hyd heddiw mae rhannau helaeth o'r bryniau yn dal dan reolaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn ac ar gau i'r cyhoedd.
Daw enw Epynt o'r gair Brythoneg epo-s ‘ceffyl(au)’ - sy'n rhoi enw'r dduwies Geltaidd Epona a'r gair Cymraeg ebol - a hynt, a'r ystyr yw ‘lle crwydra ceffylau’.
Ynghyd ag amddiffynnydd ceffylau roedd Epona yn dduwies ffrwythlondeb ac mae’n cael ei chysylltu â Rhiannon yn y Mabinogi. Yn ei thro roedd Rhiannon (Y Frenhines Fawr) yn cael ei hystyried yn dduwies aileni, doethineb, trawsnewid ac ysbrydoliaeth artistig.
Gan gofio Troad Allan Epynt 80 mlynedd yn ôl, rhoddwyd gwahoddiad i artistiaid i ddychmygu sut fyd yr hoffen nhw ei weld ar ôl i’r haint C-19 basio.
a phe baen ni’n byw fry yn y bryniau, pamffled traethawd gweledol, 2020
cliciwch yma am y fersiwn Gymraeg